Canolfan Iaith Bro Gwaun
  • Hafan
  • Hwyrddyfodiaid
    • CYNNYDD CYMRAEG YN Y CARTREF - WELSH DEVELOPMENT AT HOME
    • Hwyrddyfodiaid Ysgolion
    • Ionawr / January
    • Mawrth / March >
      • Llangrannog
      • Yr Amser
      • Chwefror / February >
        • Gorchmynion
        • Lliwiau
      • Y Pasg
    • Ebrill / April >
      • Y Corff a Salwch
      • Dillad
    • Mai / May >
      • Anifeiliaid
    • Mehefin / June
    • Gorffennaf / July
    • Awst / August
    • Medi / September >
      • Teimladau / Feelings
      • Y Cartref / The Home
      • Misoedd y Flwyddyn / Months of the Year
      • Y Tywydd / The Weather
    • Hydref / October
    • Tachwedd / November >
      • Hobiau
    • Rhagfyr / December
  • Dilyniant
    • Tymor yr Hydref
    • Y Ddwy Ddraig
    • Y Morgrugyn a'r Golomen
    • Tymor yr Haf
  • Bwrlwm Bro Gwaun
    • Radio Bwrlwm Bro Gwaun
  • Adnoddau / Resources
    • Pecyn Celf Ail Iaith
    • Jemima Nicholas
    • Y Gyrrwr Gorau
    • Patagonia
    • Moeseg >
      • Bwydo'r Pum Mil
      • Sul y Blodau
      • Sacheus
    • Blynyddoedd Cynnar >
      • Llythyren yr Wythnos
      • Y Bachgen Bach Toes
      • Yr Iar Fach Goch
    • Cymhwysedd Digidol / Digital Competency
  • SGWRS? WRTH GWRS!
CWRS

HWYRDDYFODIAID

​Gwahoddir Hwyrddyfodiaid o dalgylch Abergwaun i Ganolfan Iaith Bro Gwaun er mwyn mynychu Cwrs Hwyrddyfodiaid - Cwrs Cymraeg ar gyfer disgyblion rhwng 7 ac 11 oed.

Lleolir y Ganolfan Iaith ar gampws Ysgol Bro Gwaun, Abergwaun.  Fel athrawes y Ganolfan, Mrs Eiry Wyn Bellis sydd yn gyfrifol am addysgu a gwarchod y plant a byddant yn ei gofal trwy gydol y dydd.​ ​

Bydd y plant yn mynychu’r cwrs am ddau ddiwrnod yr wythnos - o fis Medi hyd at Hanner Tymor y Sulgwyn. Yn ystod y sesiynau bydd y disgyblion yn gwella ar eu sgiliau llafar, darllen ac ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg yn gyflym trwy weithgareddau fel drama, celf, tgch, chwaraeon a llawer mwy.

Pwrpas y cwrs yw i 
loÿwi sgiliau Cymraeg yr unigolion ac i ennyn a meithrin mwy o hyder wrth ddefnyddio’r iaith tu fewn a thu allan i’r dosbarth.​

Mae’r cwrs yn rhan o brosiect ehangach yng Ngogledd Sir Benfro i ddefnyddio’r Gymraeg ac yn gyfle gwych i ychwanegu dimensiwn newydd at addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Hyderwn yn fawr y byddwch chi fel rhieni yn awyddus i gynnig y cyfle unigryw hwn i’ch plentyn elwa o’r sesiynau a’r profiadau yma.​ ​

Gall disgyblion fydd yn mynychu’r Ganolfan deithio ar fws yr Ysgol Uwchradd – pe dymunir – i ddod i’r Ganolfan Iaith ond bydd angen trefnu gyda’r cwmni bysus neu’r adran Trafnidiaeth yn Neuadd y Sir er mwyn trefnu cerdyn teithio os bydd angen. Bydd y Ganolfan yn dechrau am 9.00 y.b ac yn gorffen am 14.45 y.p.
Bydd cinio am ddim os ydy’ch plentyn/plant am ginio yn y cantîn. Bydd angen i chi drefnu gyda thîm Arlwyo Cyngor Sir Benfro i gael cerdyn bwyd trwy’r system debid uniongyrchol. Bydd pob plentyn yn cael gwerth £2.75 ar eu cerdyn trwy’r sir. Gall eich plentyn ddod â bocs bwyd pe dymunir.

Am fwy o wybodaeth am natur a chynnwys y cwrs mae croeso i chi gysylltu gyda'r Ganolfan Iaith  yn uniongyrchol er mwyn trefnu ymweliad i chi a’ch plentyn/plant yma yng Nghanolfan Iaith Bro Gwaun.​​

This course is designed for pupils between 7 and 11 years, who attend local primary 
schools. The Centre is based here at
Ysgol Bro Gwaun, where the children are in 
the sole care of the Language Centre
Teacher Mrs Eiry Wyn Bellis, teaching and 
supervising all activity from arrival to 
departure daily.​
​
Pupils attend the course for two days each 
week from September until Whitsun half 
term. 

They will improve their language skills 
quickly through lively oral activities arising 
from a variety of situations  e.g art, 
technology, drama and movement activities.

As their language proficiency develops, tasks 
extend across the curriculum to include Mathsand Science. The course is designed to help children who are at present inclined to be reserved using their Welsh skills and who 
would benefit from additional tuition.​

​This course is part of a wider project to promote the use of Welsh in North 
Pembrokeshire, and it is hoped that parents 
will be eager to offer their children the 
opportunity to attend, thus providing an added dimension to their education and 
offering experiences that will enrich their 
young lives.

​​
Pupils attending the course may travel on the Ysgol Bro Gwaun secondary school buses to the Language Centre. You are advised to contact the transport department at Pembrokeshire County Council or contact the bus company directly to obtain a bus pass - if necessary. The Centre begins at 9.00am and ends at 14.45 pm.

At lunchtime, free meals are provided up to the amount 0f £2.75 in the school canteen. Your child will require a lunch card which can be obtained through the Pembrokeshire County Council Schools Catering direct debit scheme website. It is a card only canteen. A packed lunch may be brought if preferred.
​

If you would like further information about 
the nature of the course, a time may be 
arranged for you and your child / children 
to visit the Language Centre for further 
discussion.​

BLAS AR FYWYD YN Y GANOLFAN IAITH!
A GLIMPSE INTO WHAT GOES ON IN THE LANGUAGE CENTRE!
​2023 - 2024

Picture
Hawlfraint © 2015 - 2024 Copyright Canolfan Iaith Bro Gwaun

Mae Canolfan Iaith Bro Gwaun yn berchen ar, yn cynhyrchu ac yn defnyddio gweithiau sydd wedi eu gwarchod gan hawlfraint mewn rhai gwersi. Wrth gasglu, cadw a rhoi mynediad i’r gweithiau hynny, mae’n bwysig ein bod yn trin a thrafod hawliau yn y dull priodol. Gwneir pob ymdrech i sicrhau ein bod yn ymdrin â hawliau yn ddiwyd a chytbwys, a’n bod yn gweithredu yn ddidwyll bob amser. Os ydych am fynediad i'r holl wefan yna cysylltwch gydag [email protected] i gael cyfrinair.

​Bro Gwaun Language Centre owns, produces and uses copyright protected works in some lessons. When collecting, conserving and accessing those works, it is important that we treat rights properly. Every effort is made to ensure that rights are dealt with diligently and equitably, and that we act in good faith at all times. If you want to access the whole website then contact [email protected] for a password.


  • Hafan
  • Hwyrddyfodiaid
    • CYNNYDD CYMRAEG YN Y CARTREF - WELSH DEVELOPMENT AT HOME
    • Hwyrddyfodiaid Ysgolion
    • Ionawr / January
    • Mawrth / March >
      • Llangrannog
      • Yr Amser
      • Chwefror / February >
        • Gorchmynion
        • Lliwiau
      • Y Pasg
    • Ebrill / April >
      • Y Corff a Salwch
      • Dillad
    • Mai / May >
      • Anifeiliaid
    • Mehefin / June
    • Gorffennaf / July
    • Awst / August
    • Medi / September >
      • Teimladau / Feelings
      • Y Cartref / The Home
      • Misoedd y Flwyddyn / Months of the Year
      • Y Tywydd / The Weather
    • Hydref / October
    • Tachwedd / November >
      • Hobiau
    • Rhagfyr / December
  • Dilyniant
    • Tymor yr Hydref
    • Y Ddwy Ddraig
    • Y Morgrugyn a'r Golomen
    • Tymor yr Haf
  • Bwrlwm Bro Gwaun
    • Radio Bwrlwm Bro Gwaun
  • Adnoddau / Resources
    • Pecyn Celf Ail Iaith
    • Jemima Nicholas
    • Y Gyrrwr Gorau
    • Patagonia
    • Moeseg >
      • Bwydo'r Pum Mil
      • Sul y Blodau
      • Sacheus
    • Blynyddoedd Cynnar >
      • Llythyren yr Wythnos
      • Y Bachgen Bach Toes
      • Yr Iar Fach Goch
    • Cymhwysedd Digidol / Digital Competency
  • SGWRS? WRTH GWRS!